
Etholwyd Joyce i’r Cynulliad ym Mai 2007. Mae ganddi gysylltiadau cryf efo Chanolbarth a Gorllewin Cymru ac mae hi wedi gwasanaethu ei chymuned am gynifer o flynyddoedd.
Mae Joyce yn briod i Colin ac mae ganddi dri o blant, Heather, Fiona a William.
Mynychodd Joyce ysgolion Manorbyr a Cosherton ac Ysgol Gyfun Aberteifi. Mae hi wedi rhedeg nifer o fusnesau, yn cynnwys tafarnau, bwytai a adeiladau masnach yng Ngeredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Yn 1990, aeth Joyce i Goleg Sir Benfro, yna yn 1993 darllenodd hi Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio gydag anrhydedd tra’n rhedeg ymgyrch Seneddol lwyddiannus y Blaid Lafur ym Mhreseli Penfro.
Bu Joyce yn weithgar yn y Blaid Lafur ers yn oedolyn ac roedd hi yn arweinydd y grŵp ar Gyngor Sir Benfro am chwe mlynedd. Hi oedd yr unig aelod benywaidd ar Gyngor Sir Benfro yn cynrychioli ward yn etholaeth Preseli Penfro rhwng 1995 a 2005. Roedd Joyce yn aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys a Grŵp Gweithredu Cynllun Gofodol Sir Benfro. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau cyfiawnder cymdeithasol fel Prosiect Ieuenctid y Garth, lle mae yn gadeirydd.
Roedd Joyce yn rheolwr Clymblaid Cenedlaethol Merched Cymru a hefyd yn aelod o Grŵp Cyfeiriadol Cydraddoldeb y GIG.
Mae Joyce yn ddysgwr Cymraeg ac addysgwyd ei phlant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Joyce yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb Cyfleoedd, y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, y Pwyllgor Deddfwriaeth Isradd a’r Pwyllgor Cyllid. Hefyd, mae Joyce yn lefarydd y Blaid Lafur ar Faterion Gwledig yn y Cynulliad ac yn aelod o’r Cynulliad Seneddol Prydeinig Iwerydd. Sefydlodd Joyce ac mae yn gadeirydd y Grŵp Traws Blaid ar Fasnachu mewn Merched a Phlant. Yn ychwanegol, mae Joyce yn Ddirprwy Gadeirydd o’r Grŵp Traws Blaid dros Plant dan Olygaeth.
Ymysg ei ddiddordebau gwleidyddol mae Datblygiad Economaidd, Llywodraeth Leol a Cydraddoldeb, Trafnidiaeth Gwledig a Diogelwch Heolydd.
Manylion Cysylltu
Cyfeiriad etholiadol:
6, Queen Victoria Road,
Llanelli,
SA15 2TL
Ffon:
(01554) 774902
Cyfeiriad y Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
CF99 1NA
Ffon:
(029) 20 898614
e-bost:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Wefan:
http://www.joycewatson.co.uk/











