Llanelli Labour Party

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • English (United Kingdom)
  • Cymraeg (Welsh)
Felinfoel

Cynghorydd Cymunedol dros Felinfoel


Y Cyng. John Evans

16 Danybanc,
Felinfoel,
Llanelli.
SA15 4NS
Ffon:
01554 757302




Swyddfa Post Felinfoel - Y Diweddar

Ebost Argraffu PDF
Mae Nia Griffith AS yn gwneud ei gorau i gael gwasanaethau'r swyddfa bost yn ôl i Felinfoel. Byddwch yn cofio i Nia roi pwysau ar Swyddfa Bost Cyf i ddod o hyd i rywun a fyddai’n barod ac yn gymwys i wneud y gwaith wedi ymddeoliad y bostfeistres. Cyflwynodd Nia ddeiseb yn cynnwys rhyw 1254 llofnod a threfnodd gyfarfod cyhoeddus lle ddaeth llawer ynghyd i ddangos nerth teimladau trigolion Felinfoel ac i ddangos yn glir i Swyddfa Bost Cyf y rhesymau gorau dros gynnal swyddfa Bost yn y gymuned.

Dywedodd Nia, “Unwaith eto yr wythnos hon ’rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Swyddfa Bost Cyf a gallaf adrodd bod rhywun lleol mewn busnes wedi gwneud cais i redeg y Swyddfa Bost. Mae’n rhaid i Swyddfa Bost Cyf wneud ymchwiliadau cymhleth, a chraffu ar y cynllun busnes cyn gallent fynd ymlaen â’r cais. Fodd bynnag, ’rwyf wedi eu hannog i gwblhau eu hymchwiliadau cyn gynted â phosib. Gallaf eich sicrhau bod hwn yn achos sy’n agos at fy nghalon. ’Rwy’n bwriadu cyd-weithio â Swyddfa Bost Cyf i sicrhau bod gwasanaethau’r Swyddfa Bost yn dychwelyd i Felinfoel cyn gynted ag y bo modd.