There are no translations available.
by Nia Griffith MP
Five Roads, Pontyates, Ponthenri, Cynheidre and SylenPonthenri Post OfficeNia Griffith MP pictured gathering signatures for her ‘Save Ponthenri Post Office Petition’ Nia said, “The response has been amazing, it shows how much the residents of Ponthenri care about their Post Office services. Quite often when services such as these close it is all to easy to let it stay that way, well I don’t intend to let this happen. |
Ponthenri Post Office Re-opensThere are no translations available. by Nia Griffith MP Syrjeri Ymgynghori Pum Heol
Fe fydd Nia Griffith AS yn cynnal syrjeri ymgynghori yn Neuadd Cymunedol Pum Heol ar y 10fed o Orffenaf rhwng 4:30 a 5:30yh. Croeso i bawb.
Cais Cynllunio S/18128 er mwyn Symud Glo ym Mhentremawr rhwng Pontyberem a Phonthenri
Mewn ymateb i bryderon y trigolion lleol ynglŷn â’r cais hwn ’rwy’n aros i’r datblygwyr gyflwyno eu cynlluniau. Cyn gynted â fydd hwn yn digwydd, byddaf yn trefnu cyfarfod cyhoeddus ac yn gwahodd pobl leol i’w fynychu. Mae swyddog cynllunio wedi cytuno i fod yn bresennol a byddaf yn mynnu bod y cynlluniau ar gael ar gyfer sylw craff y cyhoedd. Bydd gan bawb gyfle i leisio barn. Byddaf yn eiddgar i wrando ar eich barn.
Deunydd chwarae newydd i blant Ponthenri
Mewn ymateb i bryderon preswylwyr ynglŷn â beth digwyddodd i’r £30,000 a dalwyd gan ddatblygwr y tai newydd ar gyfer gwella’r parc, rwyf wedi pwyso ar Gyngor y Sir i roi’r arian i’r Cyngor Gwledig ac yn nawr mae'r Cyngor Gwledig wedi paratoi cynlluniau i wella’r parc. Wel, mae'n dda gennyf ddweud bod y gwaith wedi dechrau a chyn bo hir bydd gan blant Ponthenri ddeunydd chwarae newydd a pharc wedi ei gymoni lle gallent chwarae.
Nia Griffith - Llythr agored am wasanaethau y Swyddfa Post ym Mhonthenri
Ers pryd i fi gael fy hysbysu, wrth gerdded trwy Ponthenri, bod y Swyddfa Bost leol ar fin cau, mae wedi bod yn fraint i arwain yr ymgyrch i gadw gwasanaethau’r swyddfa bost yn y gymuned. Trefnais ddeiseb a ddenodd gefnogaeth leol sylweddol a chynnal cyfarfod cyhoeddus. Fel canlyniad i’r holl bwysau hyn, hysbysebodd Swyddfa Bost Cyf – yn aflwyddiannus ysywaeth – am rywun i gymryd drosodd y Swyddfa Bost.
“Felly, croeso amodol sydd gennyf i’r newyddion y bydd gwasanaethau’r swyddfa’r bost ar gael unwaith eto i drigolion Ponthenri. Yr hyn fydd gennym ym Mis Medi yw gwasanaethau’r swyddfa bost am naw awr yr wythnos. Bydd ar gael yn neuadd y pentref ac y bydd tan oruchwyliaeth Rod Lowe sy’n gyfrifol am Swyddfa Bost Cydweli. Nid yw’n ddelfrydol. Serch hynny, mae gennym rywbeth ac mae hwnnw er diolch i’n hymgyrch dygn ni i ddwyn perswâd ar Swyddfa Bost Cyf i wneud popeth posib er mwyn cynnig gwasanaethau’r Swyddfa Bost ym Monthenri.” Datblygwyr yn gohirio cyfarfod glo brig
Cyfarfod cyhoeddus ynghylch cais cynllunio S/18128 i gael gweithio glo brig ym Mhentremawr rhwng Pontyberem a Phonthenri.
Darllen mwy...
Bu rhaid gohirio’r cyfarfod yr oeddwn i wedi ei drefnu gyda’r datblygwyr ar Chwefror 21ain, am nad yw eu cais newydd nhw wedi cael ei roi i’r cyngor. Rwy’n gwybod bod llawer o breswylwyr yn pryderu ynglŷn â gwaith glo brig ac rwyf am sicrhau ein bod ni’n cael cyfarfod cyhoeddus gyda’r datblygwyr cyn i unrhyw gais ddod o flaen y pwyllgor cynllunio. Rwy’n disgwyl ac yn gofyn am eglurder llawn gan y datblygwyr ynglŷn â chais i gael gweithio glo brig ym Mhentremawr. |
|
|