Fe fydd Nia Griffith AS a'r Cyng Dewi Enoch yn cynnal syrjeri ymgynghori yn Neuadd y Pentref Tyrcroes ar Ddydd Gwener 26ain o Fehefin rhwng 4:30 a 5:30yh. Croeso i bawb.
Cynghorwr SirDewi Enoch, 66 Tycroes Road, Tycroes, SA18 3NS, 01269 593088 Cynghorwyr CymunedolDewi Enoch, 66 Tycroes Road, Tycroes, SA18 3NS, 01269 593088 |
Syrjeri Ymgynghori Tycroes
Fe fydd Nia Griffith AS a'r Cyng Dewi Enoch yn cynnal syrjeri ymgynghori yn Neuadd y Pentref Tyrcroes ar Ddydd Gwener 26ain o Fehefin rhwng 4:30 a 5:30yh. Croeso i bawb.
Diogelwch Ffyrdd Mae cyflymder traffig ar Heolydd Pontarddulais a Phenygarn yn peri pryder. Mae’n beryglus yn arbennig i rieni a phlant ar y ffordd i’r ysgol. Mynnwn fod yr Asiantaeth Cefnffyrdd yn gosod mesurau tawelu traffig ond ’does dim wedi digwydd hyd yn hyn. Os nad oes dim byd wedi’i wneud cyn bo hir i ddiogelu pobl, byddwn yn codi gwarchae tu allan yr ysgol er mwyn eu gorfodi i dalu sylw. Os oes gennych chi bryder ynglŷn â diogelwch eich plant, ’rydym am gael eich cefnogaeth chi am y weithred hon.Lluniwyd (Ch i Dd): Y Cyng Dewi Enoch gydag Anne Beyer, Nia Griffith AS a Meirion Evans. Ymgyrch Glanhau Tycroes
Gyda thrigolion lleol byddwn yn trefnu casglu sbwriel er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r broblem. Byddwn yn cael bagiau a chrafangau oddi wrth y Cyngor Sir. A fyddech gystal â rhoi gwybod i ni os medrwch ddod?
Beth yw sbwriel? Fe all fod cyn lleied â phapur losin neu mor fawr â bag llawn sbwriel. Mae’n drosedd ollwng sbwriel mewn man cyhoeddus; fe all y gosb fod yn ddirwy o £95. |
|
|