Gan groesawu’r newidiad, dywedodd Nia, “Dylai hwn gwneud y siwrneiau yn gyflymach ac yn rhatach i siopwyr, ond rhan yn unig yw o’m ymgyrch i wneud Trostre a Pemberton yn fwy cyfeillgar i gerddwyr. Mae perchnogion y parciau manwerthu wedi ymateb i’m ceisiadau gan greu manau gollwng ar gyfer tacsis o flaen M&S a man croesi yn agos at gylchfan BHS ond ’rwyf am weld mwy yn cael ei wneud gan adran y priffyrdd ynglŷn â’r gysgodfa fysus newydd ac i wneud e’n fwy diogel i groesi o Pemberton i Trostre – pob dydd cewch weld cerddwyr yn rhoi eu bywydau mewn perygl ar yr hewl hon. Mae angen croesffordd go iawn arnom.”
| < Yn ôl | Nesaf > |
|---|











